Trwy’r Tannau - Dwy ffrind. Pedair llaw. Sawl stori.
Cyfuniad cyffrous o chwedlau a cherddoriaeth, draddodiadol a
gwreiddiol, sy’n dathlu’r delyn yng Nghymru. (Cymraeg)
Telyn Tales -Two friends. Four hands. Telling tales.
A show full of delightful folktales with traditional and original music
celebrating the harp in Wales. (Welsh language)
Mae Mair Tomos Ifans yn gyfarwydd a chantores werin adnabyddus sy’n
rhannu chwedlau a straeon gwerin o bob cwr o Gymru wedi’u plethu a chaneuon ac
alawon traddodiadol.
Mae Sioned Webb wedi perfformio yn helaeth yma yng Nghymru ac yn
rhyngwladol. Mae’n adnabyddus am ganu’r
piano a’r delyn deires ac am gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth o bob math. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, yn eu
plith, cyfrolau o ganeuon gwerin yn nodedig ‘Hen Garolau Cymru’ a ‘Seiniwn
Hosanna’.